Croeso i'r Gwasanaeth Gwneud Iawn ar gyfer Gwasanaethau Post.

Please help us to evaluate the usefulness of our website >

Mae’r Gwasanaeth Gwneud Iawn ar gyfer Gwasanaethau Post (POSTRS) yn gorff annibynnol sy'n datrys anghydfodau rhwng gweithredwyr post trwyddedig a'u cwsmeriaid.

Mae’r gyfraith yn mynnu bod pob gweithredwr post trwyddedig yn dod yn aelod o Gynllun Arall i Ddatrys Anghydfod (ADR) wedi’i gymeradwyo gan Gomisiwn y Gwasanaethau Post (Postcomm). Lansiwyd POSTRS ar 1 Hydref 2008, a dyma'r unig gynllun a gymeradwywyd hyd yma.

Mae wedi’i gynllunio i helpu datrys anghydfodau yn ymwneud â chwsmeriaid neu fusnesau ynghylch derbyn post oddi wrth weithredwr post trwyddedig, neu brynu neu ddefnyddio cynhyrchion neu wasanaethau trwyddedig (ac eithrio'r cynhyrchion neu'r gwasanaethau hynny y mae gan gwsmer gontract amdanynt gyda'r aelod gwmni).

Nid oes cost i wneud cais i POSTRS, a gellir dod o hyd i restr o gwmnïau sy'n tanysgrifio i POSTRS ar y dudalen “Pwy sy’n dod o dan y cynllun?”, ynghyd â rhestr o’u cynhyrchion a’u gwasanaethau sy’n dod o dan y cynllun

Mae Rhestr o Gwestiynau Cyffredin (a elwir yn “FAQs) yn rhoi rhagor o wybodaeth am POSTRS a sut mae’n gweithredu fel y mae rhannau eraill o’r wefan hon.

Os na ellwch ddod o hyd i unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi neu os hoffech inni egluro unrhyw fater, a fyddech cystal ag anfon e-bost at POSTRS neu ffonio 020 7520 3766. Neu os ydych yn drwm eich clyw neu os oes gennych ffôn testun gallwch ffonio ar 020 7520 3767.

Independence Integrity Impartiality

My case was settled by POSTRS in a very prompt and professional manner and I would recommend the service to anyone